1
A daw bag i'r byd
Yn faban ufudd,
Yr un distaw
Wrth eich ochr,
Ar drên, ceidw rhai draw,
Un sy'n swilio cwmni,
Yma, ar sedd
Ei dafod lledr sy'n blyban -
Cau ac agor ceg,
Cyn ichi gau'r gwefusau;
Y bag hefyd yw'r cof,
Eich ffôn-ar-y-lôn, pwrs clyd,
Tabledi cur pen, menig,
Ceidw sbectol haul -
Bagedyn o oleuni yw
Ar siwrne faith,
Hwn yw bydysawd llonydd y byd gwenfflam, rhwng eich bodiau.
2
Fe ddeallodd gwragedd
Fendithion y bag bach:
Agor drôr ddoe ddiwethaf
A'u cael ar orwedd,
Yr un o ledr coch a gafwyd
Ym Manila, un-cuddio-dan-ddillad,
Un arall, llawn gemau, at bwrpas cinio crand;
Gyda hwn , af am dro i osgoi mân siarad
A'i lochesu yn seintwar stafell y genethod;
Un dros ysgwydd,
A'r un sy'n ail asgwrn cefn
Yn eich cefn hefyd ym mhob penrhyddid llaw;
Hanes merched yw hanes traul eu bagiau;
Yr hancesi papur a guddia ddagrau ,
A'r daflen angladdol a blygir yn ddau
I'w gadw'n ddwrglos.
Bydd bag ar ôl galar yn gyfaill hawdd ei gael
-fe ddeall holl linynnau'n llaesu
3
Beth oedd tu mewn i glicied y jôc
Am Thatcher a'i bag?
A ble oedd hwnnw
Adeg y bom yn Brighton?
4
Ganol nos, unwaith yn Seiont Manor,
Fe ddihunes a gweld dyn
Yn sleifio dros falconi fy ‘stafell;
A phan godes, a'i gwrso
Dyna lle roedd fy mag ,
Yno'n sefyll,
Yn noethlymun, fel minne;
Ar agor i'r byd,
Llathrudd dan leuad lawn.
5
Ar dram, yn Amsterdam
Camu i'r palmant,
Fy mag wedi ei matryd
Uwch goleuadau cras y stryd.
6
Unwaith, wrth sefyll ar balmant
Yn Llundain,
Yn nyddiau'r gwrthdystio,
Cael fy nghamgymryd
Am butain,
Am na fagwn rhwng fy nwylo-fag.
7
Un o'r geiriau cyntaf o'r Hen Lyfr
Imi ddal yn fy nghof
Oedd ‘ysgrepan',
A chasglodd gwdyn dychmygus amdanaf -
A weithiodd Adda sach?
A drefnodd Abraham ffetan
I gario ‘i gynllwyn i ben y mynydd?
Tebyg nad oedd ‘na ddigon o godau
Yn bosib i ddal holl rywogaethau Noa?
8
Os yw un bag plastig
Yn cymryd mil o flynyddoedd
I bydru
Pam yn y byd na allwn eu gwahardd
O dir Cymru?
9
Mae'n anodd i eiriolwr bagiau
Ddeall y sawl - pwn ar gefn,
Yn myned trwy orsaf
Angau'n oedi ar ysgwyddau
At borth gyfyng, dywyll,
Bore hyfryd o haf,
I ddatod lliynynnau,
A'i gynnwys yn gynsail
I ddamsang ing
Rhodd -
Bagad gofidiau.
Yna, sachau newydd a gludwyd
I fforensigeiddio aelodau a mater
Tu hwnt a thu draw i fater -
Yr unig fater sy wir yn cyfri'
10
Un ddameg sy i'r teithiwr triw:
Mae cyrraedd yn fyw
Yn rhagori ar giw yn ‘lost luggage'.
11
‘Mynnwch hwyl' meddai'r Iseldires,
Wrth imi ddewis ei bag am dri eiwro
Ar ddydd Oren yn y Prinsengracht;
Ei bag ysgol ydoedd,
A'r diwrnod y caries ef adre
Fe deimlwn fel geneth ysgafndroed
Cyn greddfu y byddai'r bag yn caru cael beic.
12
O bob dim a feddaf yn y ty,
Y basged sbwriel wrth fy nhraed
Yw fy nghyfaill pennaf,
Herciodd unwaith ar ddolennau
Beic fy mam,
Wrth i honno
Fynd ar neges yma a thraw,
Yn wraig gweinidog landeg;
Gallaf glywed y lemwn o'i chacen
Yn codi i'm ffroenau,
Gweld ei chacen marbl yn chwyrlio
Nes dawnsio i'w lle;
A'm bysedd yn llyfu eisin.
Ond edrychaf eto,
A does dim yn y fasged
Dim ond geiriau torllwyd,
Helion ar wasgar
‘yn eisteddfa gwatwarwyr'.
13
Mae'n hen dric mewn gweithdai,
Rhyw gwestiwn,
‘Beth sydd yn y bag?'
Rhyw fath o ‘What's my Line'
Y byd barddol.
A bydd y mentor yn mentro
Nodi'r hyn na ellir ei gael yno,
Megis esgyrn a giau a gwaed,
Ymlusgiaid neu ddwylo wedi eu dryllio.
Heddiw, edrychaf ar ffilm CCTV
A gweld y bagiau,
O, fel y medrent fod yn llawn offer
Mynydda, fflasgiau diwallu ar ddiwedd dydd,
O, fel y medrent fod yn llawn
Rhoddion, anrheg hwyr i gariad
Neu lyfr newydd i'w ddarllen.
Ond mae'r dychymyg yn pylu
Gyda thraul dynoliaeth,
A drygioni mor ddi- ddu-drugarog
Dyma gêm ddiawen
Nad yw bellach yn gweddu.
14
Fe ddywedodd Plath
Mai bardd oedd y paciwr
Mwya' godidog,
Pob gair wedi ei wasgu'n dynn
Cyn inni eistedd ar y cês , straffaglu i'w gau.
15
Yn y Cynulliad
Fe ddywedir gan rai,
fod yr aelodau benywaidd yn poeni'n enbyd
ble i osod eu bagiau.
16
Ar ddiwedd ein hoes,
Ni raid inni boeni mwyach
Ble mae'n bagiau,
Dyma un daith sydd ar gyfer dwylo rhydd
...
Read full text