Carreg ddrws dy fodolaeth,
Sy'n llechen lan y bore
Maen ar gronglwyd f'enaid,
Un cam wrth fur cariad
Sy raid. Un syml, sownd.
Wnes i ddim deall helfa
Pobl am risial, neu glap aur,
Na deiamwnt. Dim ond
Diolch am y meini mewn llaw,
Meini mellt weithiau o'r awyr,
Maen sugn., dwy long mewn harbwr,
Maen tynnu atat synnwyr
A'r maen hir mewn oes o raean
Fe dreigla, heb fwsogli.
Maen hogi fy ymennydd
Meini cellt, yn mynnu tanchwa
Dan feinwe'n chwarel grai.
Maen ar faen yn gerrig milltir
Y cerddaf atynt yn llawen,
Gan delori fel clap y cerrig.
This poem has not been translated into any other language yet.
I would like to translate this poem