Gwnaeth dogn o faw ddim drwg i neb oedd coel mamgu.
A yw geiriau pob dyn fel glaswelltyn?
Trefnais angladd heddi ar doriad dydd.
Bydd yr ymadawedig yn cael ei chladdu
gyda'r cathod eraill, ben pella'r ardd.
Bydd y perlysiau lintel ffenest yn gwybod amdano.
Byddaf yn codi'r pridd a'm cledrau noethion.
Byddaf yn sgwrsio a'r malwod- wedi gweddi'r terfyn.
Bydd, O fe fydd yn cael claddfa barchus.
Pwy a wyr na fydd ‘Margaritas' yn weddus.
Caiff hen bennill anhysbys ei hymian , yn ddigyfeiliant.
A bydd, fe fydd yn ddedwydd yn yr anialwch a'r anghyfanneddle.
Pwy a wyr na fydd yn cellwair wrth y morgrug mai dechreuad felly a gafodd hithau.
A byddwn, byddwn yn dal i'w dathlu fel rhyw eni gwyrthiol a fu farw'n ffrit-ffrat.
Bydd cylch o chwiorydd o'i chwmpas i ddynwared angladdau'r ‘dynion yn unig'.
Bydd gwaharddeb ar ddagrau , ond gall odlaw ddisgyn yn dawel.
A byddwn yn diolch am ei bywyd, am eni, am feithrin , am ein magu'n dyner.
A bydd nythiad o'r glewion yno, yn gywion di-gwyn.
Ni fydd carreg fedd ond bydd pawb yn cofio mai yn y fan honno y claddwyd
‘ffeminyddiaeth'.
Ac ni fydd ewyllys, namyn yr ewyllys i barhau i fod yn un teulu dynol
...
Read full text