Rehoboth Poem by Shaun Cronick

Rehoboth

Rating: 5.0

Mae'r goleuadau'n diffodd, un ac un,
A'r dorf yn cyrchu'r hen aneddau clyd,
A minnau'n gaeth i deml a gerais cyd,
Mewn rhyw ddychrynllyd oedfa wrthf f'hun,
Yna i'r gwanllyd olau, ar drefnus lun,
Y rhai a bruddais gynt yn welw eu pryd
Yn dod i'w seddau'n ol o arall fyd
Gan gludo bendith plant y peraidd hun;
Ac wele ford y Cymun eto'n wyn,
Ac atswn moliant melys fel hen win;
Pa fodd, Rehoboth, y gadawf di
A datrys rhwyd y mwyn atgofion hyn?
Tangnefedd, fangre hoff; hyd henoed crin
Ni ddiffydd d' olau ar fy llwybrau i.

Sunday, December 20, 2020
Topic(s) of this poem: poem
POET'S NOTES ABOUT THE POEM
Cerdd Gymraeg annwyl iawn a bron â cholli cerdd Crwys Williams. Ysgrifennwyd yn y Gymraeg gwreiddiol.
COMMENTS OF THE POEM
READ THIS POEM IN OTHER LANGUAGES
Close
Error Success